SWP logo.png

 

 

 

RHAGLEN DE CYMRU

CYNNIG YSGRIFENEDIG I’R PWYLLGOR IECHYD A GOFAL CYMDEITHASOL

DYDD IAU 3 HYDREF 2013

 

 

Cefndir

 

Ym mis Tachwedd 2011, cyhoeddodd y Gweinidog dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar y pryd y ddogfen bolisi “Law yn Llaw at Iechyd: Gweledigaeth 5 Mlynedd ar gyfer y GIG yng Nghymru”.  Roedd y ddogfen hon yn nodi gweledigaeth am ofal iechyd yng Nghymru a oedd yn herio’r GIG a’r cymunedau y mae’n eu gwasanaethu i ymdrechu i fod cystal â’r gorau yn y byd ac i anelu at gyflawni rhagoriaeth ym mhob man. Roedd y polisi’n disgrifio’r heriau pwysig y mae GIG Cymru’n eu hwynebu yn awr ac yn y blynyddoedd i ddod.

 

Law yn Llaw at Iechyd: Rhaglen De Cymru

 

Mae Rhaglen De Cymru (RhDC) yn rhan o’r ymateb gan Fyrddau Iechyd i greu cynlluniau ar gyfer gwasanaethau cynaliadwy ac fe’i sefydlwyd yn Ionawr 2012. Mae’r  Rhaglen yn cynnwys pum Bwrdd Iechyd yn cynnwys Bwrdd Addysgu Iechyd Lleol Powys, er bod canolbwynt y cyflenwi yn y prif ysbytai mewn pedwar Bwrdd: Abertawe Bro Morgannwg, Aneurin Bevan, Caerdydd a’r Fro a Chwm Taf.  Yn ogystal, mae Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn bartner llawn ar Fwrdd y Rhaglen ac yn Nhîm y Rhaglen.  Dyma’r tro cyntaf yng Nghymru i gydweithredu o’r fath gael ei sefydlu i rannu heriau ar draws ffiniau bwrdd iechyd ac i ymateb yn gyfunol i freuder rhai o’n gwasanaethau clinigol pwysicaf.  Mae’r Rhaglen yn seiliedig ar onestrwydd o fewn ac ar draws partneriaid RhDC a’r cyhoedd yr ydym yn eu gwasanaethu a phartneriaeth effeithiol gyda chlinigwyr a rhanddeiliaid eraill sy’n hollbwysig i gynllunio a chyflenwi’r gwasanaethau hyn. Mae gwrando ar ac ymateb i bryderon a godir gan glinigwyr ynghylch breuder gwasanaethau a’r gweithlu sydd ar gael ar gyfer y gwasanaethau hyn wedi bod yn ganolog i’n ffordd o weithio.

 

Nid yw’r rhaglen yn cynnwys pob gwasanaeth iechyd ar draws De Cymru ond mae’n gyfyngedig i wasanaethau sy’n frau yn nhermau’r gallu i gyflenwi modelau gofal diogel a chynaliadwy yn y dyfodol ac sy’n sylfaenol anghynaladwy mewn rhai ardaloedd.

 

Mae Rhaglen De Cymru’n canolbwyntio ar nifer o wasanaethau cymharol fach sy’n allweddol ond eto’n frau ac sy’n rhoi cyfrif am oddeutu 6% o wariant y GIG yn Ne Cymru.

·         Gwasanaethau Mamolaeth dan arweiniad Ymgynghorwyr,

·         Gwasanaethau Newydd-anedig dan arweiniad Ymgynghorwyr

·         Gwasanaethau Cleifion Mewnol Pediatrig

·         Gwasanaethau Meddygaeth Frys (Damweiniau ac Achosion Brys) dan arweiniad Ymgynghorwyr

 

Mae gan bob Bwrdd Iechyd gynllun ar gyfer y gwasanaethau y bydd yn eu darparu yn ei ardal ei hun.  Mae’r cynlluniau hyn yn cynnwys datblygu gwasanaethau lleol, cydbwyso ac ehangu’r gwasanaethau sylfaenol a chymunedol a modelau gofal lleol amgen, integreiddio gwell gyda gwasanaethau cyhoeddus eraill, fel y gwasanaethau cymdeithasol, a rolau cyfleusterau lleol eraill yn y dyfodol.

 

Mae gwasanaethau sylfaenol a chymunedol effeithiol yn rhan allweddol o gynlluniau lleol pob Bwrdd Iechyd, a’u datblygu a’u ehangu yw sylfaen y Rhaglen hon ar gyfer ystyried patrwm gwasanaethau ysbyty arbenigol yn y dyfodol.  Mae rhai Byrddau Iechyd o fewn y gydweithrediaeth wedi cynnal ymgynghoriadau gwasanaeth lleol ehangach ochr yn ochr â Rhaglen De Cymru, ac mae gan eraill gynlluniau cadarn sydd eisoes wedi eu datblygu ac yn cael eu gweithredu o fewn eu poblogaethau lleol. 

 

Y Rhaglen

 

Prif nod y rhaglen yw helpu Byrddau Iechyd i ddatblygu barn a rennir ynghylch sut i greu patrwm cynaliadwy o wasanaethau i genedlaethau’r dyfodol ar draws De Cymru ar gyfer y gwasanaethau brau hyn.

 

Mae’r Rhaglen wedi dilyn proses pum cam:

1.    Adolygu cyngor, arweiniad a thystiolaeth ynghylch sut y dylid trefnu’r gwasanaethau hyn i gynhyrchu’r gofal gorau i gleifion.

2.    Profi’r cyngor, arweiniad a thystiolaeth hwn gyda meddygon, nyrsys, bydwragedd a therapyddion sy’n darparu gofal i bobl De Cymru ar hyn o bryd.

3.    Crynhoi’r canfyddiadau a ddaw i’r amlwg a thrafod gyda’r cyhoedd.

4.    Myfyrio ar y themâu sy’n codi o’r drafodaeth â’r cyhoedd.

5.    Creu cynigion ar gyfer, ac ymgymryd ag, ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru. 

 

Mae’r Rhaglen wedi casglu gwybodaeth am y gwasanaethau hyn ac anghenion y bobl sy’n eu defnyddio ac wedi edrych ar gyngor ac arweiniad ynghylch y ffyrdd gorau o drefnu gofal. Mae hyn wedi cynnwys edrych ar bolisïau Llywodraeth Cymru fel ‘Gosod y Cyfeiriad’ (Chwefror 2010) a ‘Law yn Llaw at Iechyd’ (Tachwedd 2011) ac adolygu cyngor cyrff proffesiynol fel y Colegau Brenhinol meddygol, nyrsio a bydwreigiaeth. Mae hefyd wedi edrych ar gyngor gan gyrff Cymreig a Phrydeinig sy’n ymwneud ag effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd gwasanaethau cyhoeddus fel adroddiad Y Swyddfa Archwilio Genedlaethol “Healthcare across the UK: A comparison of the NHS in England, Scotland, Wales and Northern Ireland” (Mehefin 2012) ac adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru “Cyllid Iechyd” (Gorffennaf 2012).

 

Yn ogystal â hyn mae’r Rhaglen wedi ystyried tystiolaeth arall, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, sy’n ymdrin â chynllunio a datblygu modelau gwasanaeth cynaliadwy yn yr arbenigeddau perthnasol a sut y gall hyn effeithio ar ganlyniadau cleifion.

 

Egwyddorion y mae Rhaglen De Cymru wedi eu mabwysiadu

·         Rhaglen gydweithredol ond pob Bwrdd Iechyd Lleol sy’n rhan ohono’n cadw sofraniaeth dros wneud penderfyniadau;

·         Cynigion newid gwasanaeth yn seiliedig ar ansawdd, diogelwch a chynaliadwyedd;

·         Bydd y Rhaglen ond yn canolbwyntio ar y materion hynny y mae’r Bwrdd wedi cytuno sydd angen ymdrin â nhw ar lefel ranbarthol.  Bydd yr holl fanylion eraill e.e. gofal sylfaenol, gwasanaethau cymunedol a gwasanaethau ysbyty eraill, yn cael eu cynllunio a’u rheoli gan Fyrddau Iechyd unigol;

·         Bydd gwaith y Rhaglen dan arweiniad clinigol ble bynnag y bo hynny’n bosib, ac yn ymgorffori ymrwymiad clinigol mor eang ag sy’n ymarferol;

·         Er bod ‘Law yn Llaw at Iechyd’ yn cael ei ysgogi gan uchelgais am ansawdd gofal, bydd y sefyllfa economaidd ac ariannol hefyd yn gyd-destun arwyddocaol i’r Rhaglen hon.  Gall gwasanaethau ond bod yn gynaliadwy os ydynt yn fforddiadwy.

 

Gwrando ar Feddygon, Bydwragedd, Nyrsys a Therapyddion

 

Penderfynodd Bwrdd y Rhaglen bod Rhaglen De Cymru’n galw am ffordd newydd o weithio gyda’r staff proffesiynol sy’n darparu gofal iechyd i gleifion mewn ysbytai a chymunedau ar draws De Cymru. Trefnwyd cyfres o gynadleddau ac uwchgynadleddau clinigol ym Mai a Mehefin 2012 i agor y Rhaglen.  Daeth y digwyddiadau hyn a phobl at ei gilydd i drafod sut yr oedd y cyngor, arweiniad a thystiolaeth yn cyd-fynd â’u profiad uniongyrchol nhw o weithio i ddarparu’r gofal iechyd gorau i’r cleifion.

 

Gwahoddwyd cynrychiolwyr meddygon, bydwragedd, nyrsys a therapyddion o’r holl brif ysbytai ynghyd â chynrychiolwyr Ymarferwyr Cyffredinol.  Ymunodd cynrychiolwyr o Gynghorau Iechyd Cymunedol ac uwch staff o Fyrddau Iechyd â nhw.  Cymerodd dros 300 o bobl ran yn y digwyddiadau hyn, llawer ohonynt mewn dau neu dri digwyddiad.  Nid yw hyn  wedi digwydd ar y raddfa hon erioed o’r blaen ac rydym wedi gwerthfawrogi’r agwedd broffesiynol a welwyd a gonestrwydd y trafodaethau a ddigwyddodd.  Mae’r agwedd hon wedi parhau a chynhaliwyd cynadleddau clinigol yn Chwefror a Mawrth 2013 a digwyddiad rhanddeiliaid ehangach yn Ebrill 2013.  

 

Er mwyn ymchwilio’r materion clinigol o fewn pob maes arbenigol yn llawn, sefydlodd y Rhaglen Grwpiau Cyfeirio Clinigol (GCC) dan arweiniad Cyfarwyddwr Meddygol o un o’r Byrddau Iechyd oedd yn cymryd rhan ac yn cynnwys gweithwyr clinigol proffesiynol blaenllaw o bob rhan o Dde Cymru.  Rôl bob GCC oedd ystyried y safonau clinigol oedd yn sail i’r gwasanaethau, y canlyniadau clinigol a ddylai gael eu cyflenwi, y model clinigol mwyaf addas ar gyfer cyflenwi a’r gweithlu angenrheidiol i gyflenwi’r modelau gofal newydd.  Roedd y GCC hyn yn gweithredu y tu allan i, ond ochr yn ochr â threfniadau’r gynhadledd glinigol a chafwyd adborth ar gyfer cyd-glinigwyr a rhanddeiliaid eraill trwy gyfrwng y digwyddiadau mawr hyn.

 

Roedd canlyniadau argymhellion y GCC a gwaith yr uwchgynadleddau a chynadleddau clinigol yn awgrymu, er mwyn darparu gwasanaethau diogel, cynaliadwy i’r dyfodol, byddai angen i Dde Cymru ganoli elfennau arbenigol gwasanaethau mamolaeth, pediatrig, newydd-anedig a meddygaeth frys ar 4 neu 5 safle.  Ni roddwyd ystyriaeth ar yr adeg hon i’r safleoedd unigol a allai gyflawni’r elfennau gwasanaeth hyn gan fod yr argymhellion yn seiliedig ar dystiolaeth glinigol ac ystyriaethau gweithlu ac nid daearyddiaeth.

 

Yn ogystal â’r egwyddorion a phrosesau sefydliadol, fel uchod, gweithiodd Bwrdd Rhaglen De Cymru’n agos gyda staff, clinigwyr, y cyhoedd a rhanddeiliaid allweddol eraill i ddatblygu a chytuno ar set o feini prawf buddion a fyddai’n cael ei mabwysiadu i ystyried y modelau darpariaeth gwasanaeth yn y dyfodol.  Y meini prawf hyn oedd:

 

·         Ansawdd

·         Diogelwch

·         Mynediad

·         Tegwch

·         Cynaliadwyedd

·         Cydweddu strategol

 

Y farn gyfunol oedd yn penderfynu ar bwysoliad cyffredinol y meini prawf ac fe gymeradwywyd y meini prawf buddion gan bob Bwrdd Iechyd Lleol cyn eu cais i ddatblygu ac ysgogi’r opsiynau ar gyfer ymgynghoriad.

 

Ymgysylltu â rhanddeiliaid

 

Mae’r berthynas â’r Cynghorau Iechyd Cymuned sy’n cefnogi pob un o’r Byrddau Iechyd Lleol sy’n rhan o’r Rhaglen yn gryf iawn, gyda Chyfarwyddwyr Cynllunio, Prif Swyddogion Cynghorau Iechyd Cymuned a Chyfarwyddwr y Rhaglen yn cyfarfod yn rheolaidd.  Anogwyd presenoldeb y Cynghorau Iechyd Cymuned fel arsylwyr hefyd ac mae eu safbwynt a’u craffu “cyhoeddus” trwy gydol y gwaith wedi bod yn gefnogol iawn ond hefyd yn briodol o heriol.  Mae wedi bod yn bwysig iawn i’r holl bartïon adnabod a chynnal rôl annibynnol y Cynghorau Iechyd Cymuned trwy gydol y broses.   

 

Gan adnabod yr heriau y mae’r Byrddau Iechyd Lleol yn Ne Cymru’n eu hwynebu, dechreuodd Bwrdd y Rhaglen ar adolygiad sylweddol o’u gwasanaethau.  Dechreuodd gydag ymarfer gwrando ac ymgysylltu helaeth ’Cydweddu â’r Gorau yn y Byd’ http://www.wales.nhs.uk/SWP/how-we-got-here

 

Digwyddodd hyn rhwng 26 Medi a 19 Rhagfyr 2012 a chanolbwyntiodd ar chwe senario posib – tri man penodol, Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, Ysbyty Treforys, Abertawe a’r Ganolfan Gofal Arbenigol a Chritigol arfaethedig ger Cwmbrân, yn ogystal ag un neu ddau o’r ysbytai sy’n weddill – Ysbyty’r Tywysog Siarl, Merthyr Tudful, Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Llantrisant; ac Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Nod cyffredinol y broses ymgysylltu a gwrando oedd hysbysu’r Byrddau Iechyd yn well trwy ddarparu cyfleoedd i staff, rhanddeiliaid a’r cyhoedd ddatgan eu syniadau ynglŷn â’r ffordd y mae rhai gwasanaethau iechyd arbenigol a brys yn  cael eu darparu.

 

Yn y cyd-destun hwn, ar y cyd fe benododd y Byrddau Iechyd yn Ne Cymru Opinion Research Services (ORS) i gynllunio cwestiynau addas a rhoi cymorth iddynt reoli ac adrodd ar gasglu barn gan y cyhoedd a rhanddeiliaid.

 

Hefyd, cynhaliodd y Byrddau Iechyd Lleol nifer o gyfarfodydd gyda’r cyhoedd, staff a grwpiau rhanddeiliaid eraill i egluro’r cefndir, gwrando ar eu barn a deall eu pryderon.

 

Derbyniodd y Byrddau Iechyd nifer sylweddol o ymatebion ysgrifenedig hefyd fel rhan o’r broses gwrando ac ymgysylltu, a chafodd y rhain eu hystyried ar wahân yn ychwanegol i adborth yr holiadur.

 

Amlygodd canlyniad y broses ymgysylltu:

 

·         Bod mwyafrif sylweddol o blaid y nodweddion a nodwyd gan y Byrddau Iechyd i sicrhau bod gwasanaethau iechyd yn gynaliadwy.  Roedd y lefel uchel o gytundeb yn gyson ar draws y pum bwrdd iechyd.

·         Roedd mwyafrif llwyr o blaid y patrwm o wasanaethau ysbyty oedd wedi ei argymell ar gyfer y dyfodol; gyda chanoli’r gwasanaethau arbenigol a brys mewn llai o ganolfannau fel y gellir darparu gofal gwell.  Fodd bynnag, roedd ymatebion yn amrywio’n dibynnu ar leoliad gyda nifer o ymatebwyr yn pryderu ynghylch canoli, ac eisiau cadw gofal yn lleol, yn arbennig oherwydd pellter teithio a goblygiadau cost. 

·         Roedd mwyafrif llwyr o blaid teithio i dderbyn gofal gan dîm arbenigol yn hytrach na derbyn triniaeth mewn ysbyty lleol er bod ymatebion eto’n amrywio yn ôl ardal.  Er bod rhai ymatebwyr yn cytuno, mewn egwyddor, bod teithio i dderbyn gwasanaethau arbenigol o ansawdd yn gwneud synnwyr, roedd eraill yn teimlo, yn ymarferol, y bydd angen gwella trafnidiaeth gyhoeddus, rhwydweithiau ffyrdd a pharcio. 

 

Cafwyd llai o gonsensws ynghylch a ddylai rhai canolfannau gofal mewn argyfwng gael eu darparu mewn llai o ganolfannau yn hytrach na sicrhau bod pob canolfan yn darparu ystod lawn o wasanaethau.  Ni chafwyd fawr ddim gwahaniaeth yn yr ymatebion yn ôl ardal Bwrdd Iechyd.  Mae ymatebion pellach yn dangos bod ymatebwyr yn pryderu am gau Adrannau Damwain ac Achosion Brys ac eisiau cadw gofal brys yn lleol, yn ogystal â chymryd goblygiadau teithio i ystyriaeth. 

 

Ymgymerwyd ag ystyriaeth bellach o’r chwe senario gwreiddiol rhwng Ionawr ac Ebrill 2013 cyn ymgynghoriad ffurfiol.  Cafodd hyn ei lywio gan ganlyniadau’r broses ymgysylltu a thrwy gynadleddau clinigol a rhanddeiliaid pellach yn defnyddio’r meini prawf buddion cytûn.   Canlyniad hyn oedd i ORS gyhoeddi’r gwaith hwn yn “Towards a Preferred Option” ar ran Bwrdd Rhaglen De Cymru oedd yn disgrifio’r dadansoddiad pellach yr ymgymerwyd ag ef. http://www.wales.nhs.uk/SWP/supporting-documents

 

Llywiodd yr adborth o’r ymrwymiad a’r gwaith pellach yr ymgymerwyd ag ef ddatblygiad y pedwar dewis ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol ac opsiwn “ffit gorau” a nodwyd gan Fwrdd y Rhaglen. Cafodd argymhellion Bwrdd y Rhaglen eu cymeradwyo ar gyfer ymgynghoriad gan bob un o’r Byrddau Iechyd, a chawsant eu cadarnhau gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, ar 22 Mai 2013

 

Ymgynghoriad Cyhoeddus Ffurfiol

 

Mae RhDC wedi dilyn ‘Canllawiau ar gyfer Ymgysylltu ac Ymgynghori ar Newidiadau i Wasanaethau Iechyd’ (Mawrth 2011) Llywodraeth Cymru ac mae’r Sefydliad Ymgynghori wedi darparu canllawiau ac wedi monitro’r ffordd y mae’r Rhaglen yn cydymffurfio â’r canllawiau hyn. 

 

Dechreuodd yr ymgynghoriad ffurfiol ar 23 Mai 2013 a gorffennodd ar 19 Gorffennaf 2013. Cyn cyhoeddi dogfen yr ymgynghoriad ar y diwrnod hwnnw cynhaliodd arweinwyr y Rhaglen ddigwyddiad briffio gydag Aelodau’r Cynulliad (ACau) gyda chyflwyniad byr a sesiwn holi ac ateb agored.  Roedd hyn yn cwblhau cyfres o drafodaethau gydag unigolion a grwpiau o ACau trwy gydol y broses o ymgysyllu i’r ymgynghoriad.  Dilynwyd y digwyddiad briffio hwn gan sesiwn briffio’r wasg a’r cyfryngau ar yr un fformat cyn i bob Bwrdd gymeradwyo’r fframwaith ymgynghori a’r dogfennau ategol yn ddiweddarach y bore hwnnw.  

 

Mae’r ymgynghoriad wedi bod ar sawl ffurf i roi’r cyfle gorau i’r cyhoedd a phartïon eraill â diddordeb allu ymgysylltu a chyfrannu at y drafodaeth ynghylch patrwm gwasanaethau ysbyty arbenigol yn y dyfodol. Cynhyrchwyd dogfen ymgynghorol ar dair ffurf yn Gymraeg a Saesneg - dogfen lawn, fersiwn gryno a fersiwn “Hawdd ei Darllen” - cafodd y ddogfen lawn a’r fersiwn gryno hefyd eu darparu ar sawl fformat yn cynnwys braille a Llyfrau Llafar. http://www.wales.nhs.uk/SWP/consultation-documents.

 

Mae’r Cynghorau Iechyd Cymuned ar draws De Cymru unwaith eto wedi hwyluso a chadeirio’r cyfarfodydd cyhoeddus a chynhaliwyd hanner cant o gyfarfodydd cyhoeddus agored unigol trwy ardal De Cymru dros y cyfnod o wyth wythnos gyda 2,331 o bobl yn mynychu.  Roedd presenoldeb yn y cyfarfodydd yn amrywio rhwng cymunedau o fewn ardal Rhaglen De Cymru yn dibynnu beth oedd y cyhoedd yn ei feddwl byddai’r effaith  ar eu gwasanaethau lleol.  Yn ogystal â’r dogfennau ymgynghori, ategir y broses gan ddogfennau technegol manwl. http://www.wales.nhs.uk/SWP/supporting-documents.

 

Yn ogystal â’r cyfarfodydd cyhoeddus agored, cynhaliwyd trafodaethau ffocws gyda grwpiau cydraddoldeb penodol e.e. grwpiau Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig, pobl ag amrywiaeth o anableddau, yr ifanc a’r henoed, yn ogystal â grwpiau eraill sy’n cael cymorth gan y Cynghorau Gwasanaethau Gwirfoddol ar draws De Cymru.

 

Hefyd, fel rhan o’r broses ymgysylltu helaeth, cynhaliwyd cyfarfodydd gyda, a gwnaed cyflwyniadau i, Aelodau’r Cynulliad ac Aelodau Seneddol, yn ogystal ag Awdurdodau Lleol a’u haelodau etholedig, Byrddau Gwasanaeth Lleol a fforymau eraill.

 

Mae’r diddordeb ymysg staff wedi bod yn sylweddol hefyd ac mae trafod gyda grwpiau staff, fforymau proffesiynol, Pwyllgorau Partneriaeth Lleol a Grwpiau Cyfeirio Rhanddeiliaid hefyd wedi chwarae rhan fawr yn Rhaglen De Cymru.

 

Cafwyd ymateb digyffelyb i’r ymgynghoriad gyda 59,726 ymateb trwy gyfrwng yr holiadur agored (27,710), arolwg aelwydydd (820), llythyrau templed wedi eu llofnodi (24,303), deisebau (6,367 o lofnodion) a chyflwyniadau unigol (526) gan sefydliadau amrywiol fel y Colegau Brenhinol a’r Fforwm Clinigol Cenedlaethol a chan grwpiau proffesiynol eraill.

 

Mae Bwrdd Rhaglen De Cymru wedi comisiynu ORS eto i ymgymryd â dadansoddi’r ymatebion a choladu’r adborth a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori.  O ystyried lefel yr ymateb, mae Bwrdd Rhaglen De Cymru gyda chefnogaeth y Cynghorau Iechyd Cymuned wedi cytuno i ymestyn y cyfnod adolygu o fis er mwyn sicrhau ystyriaeth briodol i’r ymatebion cyn gwneud penderfyniad erbyn diwedd y flwyddyn galendr.

 

Mae’r Rhaglen wedi cynhyrchu diweddariadau rheolaidd ar gyfer y cyhoedd a rhanddeiliaid eraill trwy gydol y rhaglen a bydd y rhain yn parhau yn dilyn yr ymgynghoriad a’r adolygiad.    http://www.wales.nhs.uk/SWP/press-releases-and-updates

 

Ystyried Cydraddoldeb

 

Mae Bwrdd Rhaglen De Cymru’n ystyriol o’r ddyletswydd statudol ar bob Bwrdd Iechyd yn unol â Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yng Nghymru 2011 ac, yn unol â hynny, mae asesiad effaith cydraddoldeb yn cael ei gynnal ar gynigion y Rhaglen.  Cyhoeddwyd Dogfen Tystiolaeth Asesiad Effaith Cydraddoldeb ar wefan Rhaglen De Cymru pan gafodd yr ymgynghoriad ei lansio. Yn ystod y broses ymgynghori cynhaliwyd ystod eang o drafodaethau gyda grwpiau â diddordeb a fforymau allweddol ynghylch y cynigion.  Yn ogystal, cafwyd cyfarfodydd a digwyddiadau wedi eu targedu’n benodol i sicrhau bod y Byrddau Iechyd yn rhoi pob cyfle i grwpiau cydraddoldeb ac amrywiaeth leisio barn ar y dewisiadau, nodi unrhyw effeithiau penodol oherwydd eu nodwedd warchodedig a nodi ffyrdd posibl o leihau neu gael gwared ar yr effeithiau hyn.  Bydd dogfen tystiolaeth Asesiad Effaith Cydraddoldeb yn cael ei hadolygu a’i diweddaru yng ngoleuni’r adborth o’r ymatebion i’r ymgynghoriad a bydd yn elfen bwysig o’r broses gwneud penderfyniadau gan y Byrddau Iechyd yn nes ymlaen yn y flwyddyn.

 

Craffu a Chyngor Annibynnol

 

Ble bynnag y bu’n ymarferol a phosibl mae Bwrdd Rhaglen De Cymru wedi ceisio cyngor annibynnol arbenigol a phroffesiynol ar ystod o waith.  

 

Y Sefydliad Ymgynghori

Mae RhDC wedi gweithio’n agos gyda’r Sefydliad Ymgynghori mewn perthynas â’r broses ymgysylltu ac ymgynghori.  Mae’r Sefydliad wedi rhoi arweiniad a chyngor arbenigol ar arfer gorau i lywio ein ffordd o weithio a thrwy gynnal asesiad cydymffurfio i gadarnhau bod y ffordd o weithio a fabwysiadwyd yn bodloni ei safonau caeth o ran ymgysylltu ac ymgynghori.  Mae RhDC wedi bod yn destun adolygiadau carreg filltir allweddol gan y Sefydliad ac mae wedi cwblhau adolygiad canol tymor yn llwyddiannus yn ystod y cyfnod ymgynghori. Mae’r Rhaglen bellach wedi cydymffurfio’n llwyddiannus â cham 4 o broses 6 cham.

 

Prifysgol Caerdydd, Yr Ysgol Fathemateg

Cyn dechrau ar yr ymgynghoriad, ceisiodd Rhaglen De Cymru adolygiad annibynnol gan Ysgol Fathemateg, Prifysgol Caerdydd o’r fethodoleg a ddefnyddiwyd i asesu’r data fel y cafodd ei ddefnyddio ar gyfer y dewisiadau ar gyfer gwasanaethau’r dyfodol. Nododd ei adroddiad:

 

“Yn seiliedig ar fynediad i ddefnyddiau a gwybodaeth a ddarparwyd, mae gennym lefel uchel o hyder ym mhriodoldeb y dull modelu sylfaenol a dilysrwydd y canlyniadau.”

 

Prifysgol Abertawe – Y Ganolfan Wybodaeth, Ymchwil a Gwerthuso Iechyd

Yn dilyn y broses ymgysylltu ac yn ystod yr ymgynghoriad cafodd y mater o drafnidiaeth gyhoeddus a’i phwysigrwydd yn cefnogi mynediad i wasanaethau ei atgyfnerthu.  Comisiynodd RhDC Brifysgol Abertawe i ymgymryd ag ymarfer mapio o’r rhwydwaith drafnidiaeth bresennol ar draws De Cymru a mapio hyn yn erbyn pob un o’r dewisiadau a gynigiwyd o fewn yr ymgynghoriad cyhoeddus.   Roedd hyn er mwyn canfod heriau presennol y rhwydwaith a chanfod y bylchau posibl o ran argaeledd trafnidiaeth gyhoeddus ym mhob un o’r dewisiadau arfaethedig. Bydd canlyniadau’r gwaith ymchwil hwn yn cael eu hystyried gan Fwrdd y Rhaglen cyn gwneud penderfyniad.

 

Opinion Research Services

Mae Opinion Research Services (ORS) wedi ymgymryd â’r gwaith o ddadansoddi a chyflwyno canfyddiadau’r ymgysylltu a’r ymateb i ymatebion yr ymgynghoriad ar ran RhDC.  Sefydlwyd ORS ym 1988 o fewn Prifysgol Abertawe ac ar ôl deng mlynedd daeth yn gwmni deillio o’r Brifysgol gan gadw ei ogwydd tuag at ymchwil.  Mae’n sefydliad ymchwil cymdeithasol uchel ei barch a rheoledig ac mae’n darparu dadansoddiad annibynnol o’r ymatebion a dderbyniwyd.

 

Canolfan ar gyfer Cydraddoldeb a Hawliau Dynol GIG Cymru

Mae Canolfan ar gyfer Cydraddoldeb a Hawliau Dynol GIG Cymru yn adnodd strategol i sefydliadau’r GIG sy’n eu helpu i ddatblygu gallu a medr i sicrhau eu bod yn gallu bodloni eu gofynion cydraddoldeb a hawliau dynol statudol, a’u bod yn dangos eu bod yn bodloni anghenion amrywiol cleifion a staff wrth gynllunio a chyflenwi gwasanaethau iechyd.  Mae’r Ganolfan wedi cydweithio’n agos â RhDC i sicrhau ein bod yn gallu dangos ein bod yn bodloni ein rhwymedigaethau yn unol ag ysbryd ac anghenion y ddeddfwriaeth. 

 

Adolygiad Gateway

Mae adolygiad Gateway o’r broses hyd yn hyn yn cael ei gynnal gan dîm annibynnol ar ddiwedd Medi 2013 a bydd canlyniad yr adolygiad hwn yn cael ei gyflwyno i’r Uwch-swyddog Cyfrifol a Bwrdd y Rhaglen ym mis Hydref.

 

Effaith ar Gynlluniau

 

Yn ystod nifer o gyfarfodydd ymgynghori, nododd aelodau’r cyhoedd bryder am y wybodaeth a ddefnyddiwyd i benderfynu ar y modelau a gyflwynwyd ar gyfer ymgynghoriad e.e. modelau llif cleifion ac effaith gwasanaethau cynnal fel trafnidiaeth a gwasanaethau gwybodaeth.  Mae’r adborth hwn wedi ei ddefnyddio i lywio rhywfaint o waith ychwanegol sydd ar y gweill ar hyn o bryd ynghylch dadansoddiad llif diwygiedig yn seiliedig ar farn gyhoeddus a llif “naturiol”, dadansoddiad pellach o’r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus ar draws De Cymru a’r angen i allu trosglwyddo gwybodaeth cleifion yn ddiogel rhwng byrddau iechyd a sefydliadau eraill.  Bydd hyn yn cael ei ystyried gan Dîm y Rhaglen a Bwrdd y Rhaglen yn ystod mis Hydref a bydd yn cyfrannu ymhellach at y dystiolaeth ar gyfer gwneud penderfyniad gan y Byrddau Iechyd Lleol yn ddiweddarach eleni.

 

Y Berthynas â’r Ddeoniaeth a’r Fforwm Clinigol Cenedlaethol

 

Mae Deoniaeth Cymru’n aelod o’r Bwrdd Rhaglen ac yn cael ei gynrychioli gan y Deon neu’r Is-ddeon ym mhob cyfarfod.  Hefyd mae arweinyddion deoniaeth yn aelodau o’r Grwpiau Cyfeirio Clinigol ac yn rhoi cyngor ar anghenion hyfforddiant ac addysg yn ymwneud â’r modelau a threfniadau clinigol yn y dyfodol.  Mae arweinyddion ad-drefnu’r ddeoniaeth ar gyfer pediatreg ac obstetreg hefyd wedi rhoi cyflwyniadau arbennig i’r Prif Swyddogion Gweithredol, Cyfarwyddwyr Meddygol ac arweinyddion cynllunio ar batrwm addysg a hyfforddiant yn y meysydd arbenigol hyn yn y dyfodol.

 

Mewn perthynas â’r Fforwm Clinigol Cenedlaethol, mae RhDC wedi gwneud cyflwyniadau ffurfiol i’r Fforwm ar 16 Ionawr 2013 yn dilyn y cyfnod ymgysylltu ac eto ar 23 Ebrill a 15 Mai 2013 cyn lansio’r broses ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol.  Mae’r Fforwm wedi cadarnhau cefnogaeth i’r newidiadau arfaethedig i wasanaethau yn Ne Cymru ac wedi cydnabod arweinyddiaeth sylweddol clinigwyr yn datblygu’r modelau gwasanaeth a dewisiadau dilynol.  Mae’r fforwm wedi mynegi pryderon o ran effeithiau posibl ar wasanaethau gofal sylfaenol, y gweithlu sydd ar gael i gyflenwi model pum safle o wasanaethau arbenigol a’r angen i ddatblygu model gweithlu anfeddygol newydd ym mhob maes o’r GIG.

 

Y Camau Nesaf

 

Daeth ymgynghoriad Rhaglen De Cymru i ben ar 19 Gorffennaf 2013 ac mae ORS wrthi’n coladu’r ymatebion er mwyn datblygu adroddiad cynhwysfawr i Fwrdd Rhaglen De Cymru ei ystyried ym mis Hydref 2013.  Mae’r gwaith o ystyried y dadansoddiad llif cleifion diwygiedig yn parhau, wedi ei lywio gan sylwadau’r cyhoedd yn ystod y cyfnod ymgynghori.  Cynhelir cynhadledd glinigol arall ym mis Hydref i adrodd ar ganlyniad cychwynnol yr ymgynghoriad i’r staff clinigol sydd wedi cydweithio i ddatblygu’r modelau gwasanaeth a’r dewisiadau sydd wedi cael eu hystyried.  Mae cyfarfodydd yn dal i gael eu cynnal bob pythefnos gyda’r Cynghorau Iechyd Cymuned ar draws De Cymru cyn gwneud penderfyniad erbyn diwedd y flwyddyn galendr hon.